top of page

Yn y cyfnod cyn COP26 yn Glasgow, cymerodd dros 2,200 o eglwysi a grwpiau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon ran ym menter Sul yr Hinsawdd, gan fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy gynnal gwasanaethau Sul yr Hinsawdd, ymrwymo i weithredu ymarferol a siarad dros gyfiawnder hinsawdd.


Cafodd Sul yr Hinsawdd ei hyrwyddo gan glymblaid o 31 o enwadau ac elusennau, sef aelodau Rhwydwaith Materion Amgylcheddol (EIN) Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI). Er ei fod yn gyfyngedig o ran amser, nod y glymblaid oedd gadael etifeddiaeth o eglwysi wedi ymrwymo i weithredu parhaus. Bydd ei haelodau’n parhau i ddarparu cyfleoedd i eglwysi lleol wneud gweithredu ar yr hinsawdd yn rhan arwyddocaol o’u disgyblaeth a’u cenhadaeth ac i gyfrannu at ymdrechion cymdeithas sifil i sicrhau gweithredu cenedlaethol a rhyngwladol digonol.

Gwybodaeth i Eglwysi ar Faterion Allweddol sy'n Gysylltiedig â'r Hinsawdd ar ôl COP26
 
Mae’r Rhwydwaith Materion Amgylcheddol, a wireddodd ymgyrch Sul yr Hinsawdd, yn argymell y tair thema ganlynol fel blaenoriaethau ar gyfer ymgyrchu hinsawdd gan eglwysi yn 2022, tra bod y DU yn dal i fod â llywyddiaeth COP: rhoi terfyn ar ddatblygiad tanwydd ffosil yn y DU, iawndal am Golled a Difrod, a Thröedigaeth Ecolegol. Gallwch ddod o hyd i bapur briffio ar y materion hyn a luniwyd mewn cydweithrediad â'r aelodau yma.

Cloud.png
Icon of a church window

Addoli

Cynhaliwch wasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd, i archwilio sail ddiwinyddol a gwyddonol gofal am y cread a gweithredu ar yr hinsawdd, gweddïo, ac ymrwymo i weithredu.

Archwiliwch ein tudalen adnoddau i gael adnoddau ysbrydoliaeth ac addoli i weddu i bob traddodiad eglwysig a pheidiwch ag anghofio cofrestru'ch gwasanaeth fel y gallwn eich cyfrif chi !

Icon of a clipboard and pen

Ymrwymo

Gwnewch ymrwymiad fel cymuned eglwysig leol i gymryd camau tymor hir i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr eich hun.

 

Ymunwch ag un o'r rhaglenni presennol fel Eco Church , LiveSimply ,
Eco-Congregation Scotland neu
Eco-Congregation Ireland .

Icon of a megaphone

Codi llais

Codwch eich llais i ddweud wrth wleidyddion eich bod chi eisiau dyfodol glanach, gwyrddach a thecach wrth galon cynlluniau i ailadeiladu economi gref.

Darllenwch a llofnodwch ddatganiad 'The Time Is Now' y Glymblaid Hinsawdd fel eglwys ac fel unigolyn.

Am y rheswm hwn bydd Rhwydwaith Materion Amgylcheddol Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon yn parhau i gynnal gwefan Sul yr Hinsawdd. Yma gallwch ddod o hyd i’r deunyddiau rydyn ni wedi’u creu a’u casglu ar gyfer addoli; ffyrdd o gymryd rhan mewn gweithredu ymarferol trwy Eco Church neu Live Simply; ac awgrymiadau wedi'u diweddaru gan aelodau Sul yr Hinsawdd ar gyfer codi’ch llais. Gallwch hefyd ddod o hyd i rai o uchafbwyntiau'r fenter. Gweddïwn y bydd y rhain o ddefnydd wrth i chi a’ch eglwys ddechrau neu barhau ar eich taith. Cofiwch gysylltu ag unrhyw un o’n partneriaid os hoffech ragor o help.

Uchafbwyntiau Sul yr Hinsawdd


Cyflwynwyd crynswth y gweithredu a’r ymrwymiadau gan eglwysi lleol ar draws Prydain ac Iwerddon i Lywodraeth y DU yng Ngwasanaeth Sul yr Hinsawdd y Cenhedloedd yn Glasgow ar Ddydd Sul 5 Medi 2021. Darganfyddwch fwy a gwyliwch y gwasanaeth.

 

Daeth Sul yr Hinsawdd â gweithredu ac ymrwymiadau eglwysi lleol ledled Prydain ac Iwerddon i COP26, gan rannu fideos a’n hadroddiad ar weithgareddau eglwysi ar ein stondin ym Mharth Gwyrdd COP26. Ar 18 Tachwedd 2021, fe wnaethom gynnal gweminar, lle bu aelodau o Grŵp Llywio Sul yr Hinsawdd a oedd yn y COP yn rhannu eu hargraffiadau.
Gwyliwch y gweminar.

 

Beth sydd nesaf ar ôl COP26? Ym mis Ionawr 2022, fe wnaethom gynnal gweminar lle bu aelodau o Grŵp Llywio Sul yr Hinsawdd a oedd yn y COP yn rhannu eu hargraffiadau.
Gwyliwch y gweminar.

bottom of page