top of page

Sul yr Hinsawdd: beth sydd nesaf ar ôl COP26?

Mae COP26 drosodd, ond bydd yn parhau i fod yn hollbwysig i eglwysi adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod ymgyrch Sul yr Hinsawdd. Rydym yn galw ar eglwysi i barhau i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ofal am y cread a chyfiawnder hinsawdd, i barhau i weithredu dros yr amgylchedd yn eu hadeiladau a’u cymuned, ac i godi eu lleisiau i roi pwysau ar lywodraeth y DU i ehangu a gweithredu yr ymrwymiadau hinsawdd a wnaed yn Glasgow.


Clywch ble gallwch chi fynd nesaf wrth geisio gofalu am y cread a chyfiawnder hinsawdd. Fe wnaethom ganolbwyntio ar dri phrif gwestiwn:

  • Sut all eglwysi barhau i ymgorffori’r amgylchedd a’r hinsawdd yn eu haddysgu a’u haddoli?

  • Pam ydy hi'n gymorth i eglwysi fod yn rhan o gynllun gwyrddio wrth iddynt ymrwymo i'r hinsawdd?

  • Beth sydd angen digwydd i gadw’n fyw y nod o gyfyngu cynhesu i 1.5 gradd?

 

Roedd y panelwyr yn cynnwys rhai o grŵp llywio Sul yr Hinsawdd yn ogystal â gwesteion o’r cynlluniau gwyrddio a siaradodd am eu hymgyrchoedd a’u gweithredoedd. Cadeiriwyd y panel gan Andy Atkins o A Rocha UK.

subscribe
bottom of page