top of page
Search

Adeiladau Eglwysig - er gogoniant Duw?


Jo Chamberlain yw Swyddog Cenedlaethol yr Amgylchedd yn Eglwys Loegr.



Ydych chi'n addoli o dan fwâu gothig ysblennydd (mewn amseroedd arferol, o leiaf)? Neu wedi eich syfrdanu gan y golau amryliw sy'n llifo trwy ffenestri gwydr lliw? Neu mewn gofod syml, sanctaidd? Beth bynnag fo'r oedran neu arddull eich eglwys chi, rwy'n eithaf siŵr ei bod wedi'i chynllunio i alluogi pobl i agosáu at Dduw ac addoli. Hyd yn oed os ydych chi'n addoli mewn man wedi'i logi, mae'n debyg bod rhywun yn dod â baner neu rywbeth i addasu'r gofod mewn ffordd fach ar gyfer addoli. Gellir gweld yr adeilad ei hun fel mynegiant o addoli er gogoniant i Dduw, ac weithiau rydyn ni'n trin yr adeilad cyfan neu ran ohono mewn ffordd wahanol fel rhan o'n mynegiant o addoli. Mae ei gadw'n lân, gwneud iddo edrych yn brydferth, i gyd yn rhan o'n haddoli. Hyd yn oed effeithlonrwydd thermol yr adeilad.


Arhoswch, beth? Effeithlonrwydd thermol? Beth yw'r jargon hwnnw rydych chi wedi llithro iddo, a beth sydd a wnelo ag addoli?


Mae effeithlonrwydd thermol, mewn perthynas ag adeilad, yn ymwneud â faint o egni y mae'n ei gymryd i gynhesu'r adeilad a pha mor dda y mae'n dal y gwres hwnnw. Mae lleoedd mawr yn cymryd llawer o egni i’w cynhesu. Ac mae yna lawer o ffyrdd i wres ddianc, megis trwy waliau a thoeau sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, trwy ffenestri sy’n caniatáu’r awel i fewn neu wedi’u torri, neu o dan ddrysau. O ran effeithlonrwydd thermol adeilad eich eglwys, mae yna lawer i feddwl amdano. Ond dylai'r adnoddau rydyn ni wedi'u rhannu am y pwnc ar gyfer Sul yr Hinsawdd eich helpu chi ar y llwybr cywir i feddwl am y pethau hyn.


Ond ai addoli ydyw?


Po fwyaf o egni y mae'n ei gymryd i gadw ein heglwysi yn gynnes, y trymaf yw ein hôl troed ar y byd. Tra ein bod yn llosgi tanwydd ffosil (glo, olew a nwy) i gynhyrchu trydan neu cynhesu'r adeilad yn uniongyrchol, rydym yn cynhyrchu allyriadau carbon, neu, yn fwy cywir, allyriadau nwyon tŷ gwydr. A’r allyriadau nwyon tŷ gwydr hyn sy’n achosi’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang a chwalfa drychinebus yn yr hinsawdd o ganlyniad.


Rydym yn barod iawn i ddatgan ‘Yr Arglwydd piau’r ddaear a phopeth sydd ynddi’ [1] Rhodd Duw i bobl Dduw yw’r greadigaeth. Mae'n peri syndod a rhyfeddod inni, ac i lawer ohonom mae hyn yn ffordd o addoli. Mae meithrin a gofalu am y greadigaeth yn ein helpu i'w gwerthfawrogi'n fwy, ac mae gofalu am y greadigaeth hefyd yn ffordd o addoli. Rhan o'n gofal am y cread yw'r camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau ein hallyriadau carbon. Yn y modd hwn, mae gwella effeithlonrwydd thermol eich eglwys yn ffordd o addoli. Efallai y dylai rhywun ysgrifennu emyn amdano!


[1] Salm 24: 1 Beibl.net


Gweler ein hadnodd diweddaraf yma i ddeall mwy am dorri effaith amgylcheddol adeiladau eich eglwys a sut mae hyn yn ymwneud ag addoli a gofal am y cread, ac ymuno ag eraill i alw am newid.


bottom of page