top of page
Search

Cyflwyniad i Sul yr Hinsawdd


Dros y misoedd diwethaf, bu eglwysi yn y Deyrnas Unedig yn ymateb i’r argyfwng Covid-19 gyda thosturi, dewrder, aberth ac arloesedd, gan ddangos cariad Crist mewn ffyrdd ymarferol. Dydw i ddim bob amser yn falch o’r Eglwys, ond mae’r ffordd y mae hithau – ac yr ydym ninnau – wedi gwneud ymdrech fel hyn wedi fy nghyffwrdd a ’nghyffroi.


Er tristwch, fodd bynnag, nid Covid-19 yw’r unig argyfwng, nac hyd yn oed yr argyfwng mwyaf, sy’n ein hwynebu. Bu’r argyfwng newid hinsawdd yn dod yn raddol yn fwy a mwy o fygythiad i’r byd dros gyfnos o ddegawdau, ac mae’r amser yn mynd yn brin i rwystro anrhefn a cholli bywydau ar raddfa enfawr. Dyna pam mae clymblaid eang o elusennau ac enwadau Cristnogol heddiw wedi lansio menter Sul yr Hinsawdd – i’w gwneud yn hawdd i’r holl eglwysi weithredu, gyda’i gilydd, yn y flwyddyn dyngedfennol sydd o’n blaenau.


Er bod Covid-19 wedi arwain at ohirio cynhadledd hinsawdd Y Cenhedloedd Unedig (COP26), a oedd i’w chynnal fis Tachwedd eleni, nid yw wedi dileu’r argyfwng hinsawdd. Ni fydd y gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ystod y parlys economaidd yn gwneud unrhyw wir wahaniaeth yn y tymor hir os dychwelwn i wneud pethau’n union fel o’r blaen. Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth gwyddonwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar Banel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig rybuddio mai ychydig dros ddegawd oedd ar ôl i’r ddynoliaeth dorri’n llym ar allyriadau nwyon tŷ gwydr os ydym i fod â hyd yn oed siawns 50/50 o gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd o dan 1.5 gradd uwchlaw’r cyfartaledd cyn y Chwyldro Diwydiannol. Ond erbyn dechrau 2020, yn union cyn i’r pandemig ein taro, roedd y byd yn parhau ar lwybr a fyddai’n golygu cynnydd yn y tymheredd o sawl gradd yn uwch na’r nod hwnnw. Yr oeddem, ac rydym yn parhau i fod, yn prysur deithio tuag at drychineb hinsawdd byd-eang; a phrin iawn yw’r amser sydd ar ôl i ni osgoi hynny.


Yng nghanol trasiedi Covid-19, mae yna rai pwyntiau cadarnhaol y gallwn ddal gafael ynddynt a’u cymhwyso i gyd-destun newid hinsawdd: mae’r gwledydd hynny a weithredodd yn gynnar ar sail gwyddoniaeth gadarn wedi dioddef llai; ac mae llywodraethau a phobloedd yn gallu gweithredu’n hynod gyflym ac mewn ffyrdd radicalaidd iawn os ydynt yn deall yr angen.

I lawer o eglwysi, nid yw gweithredu ynghylch newid hinsawdd yn beth newydd. Yn dawel, ond gyda’r niferoedd yn tyfu’n barhaus, dros y blynyddoedd diwethaf bu eglwysi lleol o wahanol enwadau a dulliau addoli’n ymateb i’r mater moesol hwn mewn ffyrdd creadigol a phenderfynol. Mae mwy na 3,400* o eglwysi lleol bellach wedi’u cofrestru gyda’r prif gynlluniau gwyrddu eglwysig. Ond gyda’r argyfwng hinsawdd yn dwysáu a’r Deyrnas Unedig i fod i groesawu’r trafodaethau hinsawdd COP26 sydd wedi’u had-drefnu i fis Tachwedd 2021 yn Glasgow, credwn ei bod yn bryd i holl eglwysi’r Deyrnas Unedig weddïo a gweithredu ynghylch yr argyfwng hinsawdd, fel rydym wedi ei wneud mewn ymateb i’r pandemig Covid-19.


Ein gweledigaeth fel clymblaid yw gweld cariad Duw a dyhead Duw am gyfiawnder ar waith drwy’r Eglwys yn wyneb un o heriau allweddol ein hoes. Mae’r anghenion a’r cyfleoedd yn fawr. Maent yn cynnwys cynnig cymorth bugeiliol i genhedlaeth iau sydd eisoes yn dioddef pryder a galar ynghylch yr hinsawdd; addysgu am gariad Duw tuag at ei greadigaeth gyfan; lleihau allyriadau carbon o adeiladau a thir eglwysig ac yn sgil dewisiadau teithio a gwario’r aelodau; gwasanaethu’r gymuned leol drwy gymryd rhan mewn prosiectau ymarferol, megis adfer mannau gwyrddion yn lleol, i alluogi cymunedau i ymaddasu; a thystio i gyfiawnder Duw drwy uno’n lleisiau â galwadau yn y gymdeithas sifil ehangach am symud mewn ffordd deg tuag at economi gynaliadwy.

Mae’r syniad yn un syml iawn. Rydym yn galw ar yr holl eglwysi i gynnal Sul yr Hinsawdd yn eu hardaloedd unrhyw adeg yn ystod cyfnod o flwyddyn yn dechrau ar 6 Medi 2020 (Sul cyntaf Tymor y Cread, sy’n digwydd yn flynyddol). Byddwn yn darparu adnoddau am ddim a fydd yn addas ar gyfer pob traddodiad a dull addoli. Yn ystod Sul yr Hinsawdd yn yr ardal, rydym yn gwahodd pob eglwys i wneud un neu ragor o dri pheth:

  • Gwasanaeth hinsawdd: Cynnal gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, i ystyried sail ddiwinyddol a gwyddonol gofalu am y greadigaeth a gweithredu ynghylch yr hinsawdd, i weddïo ac i ymrwymo i weithredu.

  • Ymrwymo: Gwneud ymrwymiad fel cymuned eglwysig leol i weithredu’n hirdymor i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr ei hun.

  • Galw: Uno ag eglwysi eraill a’r gymuned yn ehangach i alw ynghyd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu mewn ffordd lawer mwy radicalaidd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y wlad hon cyn y cynhelir COP26, ac i gryfhau ei hygrededd i arwain y gymuned ryngwladol i ymrwymo i weithredu’n llawer mwy pendant yn ystod cynhadledd COP26.

Yna, ddeufis cyn y trafodaethau COP26 yn Glasgow, ar ddydd Sul 5 Medi 2021, byddwn yn cynnal digwyddiad Sul yr Hinsawdd cenedlaethol i ddathlu’r ymrwymiadau a wnaed gan eglwysi ar y lefel leol dros y flwyddyn flaenorol. Byddwn hefyd yn cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr ymrwymiadau a’r galwadau a wnaed ar y cyd gan yr holl eglwysi lleol – i ddangos i’n harweinwyr gwleidyddol y byddwn yn gefn iddynt wrth iddynt weithredu’n eofn, yn gyfiawn ac yn drugarog ar y mater hwn.


Ni allwn warantu beth fydd canlyniad COP26, ond boed y gynhadledd yn llwyddiant ai peidio, bydd y cynnydd a welwn yn effeithiau negyddol newid hinsawdd yn parhau i fynnu bod unigolion a sectorau cyfan o fewn cymdeithas yn gweithredu’n gyflym – o degwch at y rhai sydd ym magl tlodi, y rhai sydd angen mwy o gymorth i wynebu effeithiau newid yn yr hinsawdd, yr ifanc a holl genedlaethau’r dyfodol yn ogystal â gweddill byd natur. Dim ond ninnau, Gristnogion, a’n cymunedau eglwysig, a all wneud hyn drosom ein hunain; ni all neb arall ei wneud ar ein cyfer. Fel dilynwyr Duw cariadus, Duw’r Creawdwr, y ni ddylai fod y garfan mewn cymdeithas sy’n fwyaf parod i weithredu gyntaf, yn eofn, mewn ffydd a pharodrwydd i wasanaethu.


Mae menter Sul yr Hinsawdd yno i’n cynorthwyo yn ystod y flwyddyn hollbwysig sydd i ddod ar gyfer yr hinsawdd a safle arweiniol y Deyrnas Unedig yn rhyngwladol. Bydd yn ein cynorthwyo i gymryd ein camau nesaf fel cymunedau Cristnogol lleol ar fater moesol, bugeiliol, economaidd ac amgylcheddol pwysicaf ein hoes. A bydd yn ein cynorthwyo i wneud hynny gyda’n gilydd, i ddysgu’r naill oddi wrth y llall, ac i chwyddo’n dylanwad ar y cyd er daioni’n genedlaethol a hyd yn oed yn rhyngwladol.


O heddiw ymlaen, gwahoddwn bob un gymuned eglwysig yn y Deyrnas Unedig i gyduno yn y fenter hon. Gallwch gofrestru i dderbyn mwy o wybodaeth ac i ddechrau paratoi ar gyfer eich Sul yr Hinsawdd lleol yma.


Andy Atkins,

Prif Swyddog Gweithredol A Rocha UK, Cadeirydd Pwyllgor Llywio Sul yr Hinsawdd


Trefnir Sul yr Hinsawdd gan Rwydwaith Materion Amgylcheddol (EIN) Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae’r Rhwydwaith yn cydgysylltu’r bobl sy’n arwain ar faterion amgylcheddol yn y prif enwadau, rhai urddau Cristnogol a’r asiantaethau amgylcheddol a’r asiantaethau cymorth Cristnogol. Ymhlith yr aelodau o’r Rhwydwaith sydd eisoes wedi mynegi eu cefnogaeth yn ffurfiol i’r fenter mae’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD), Cymorth Cristnogol, Tearfund, A Rocha UK, Operation Noah, Climate Stewards, Eco-Congregation Scotland, Green Christian, Eglwys Loegr, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, Undeb Bedyddwyr Cymru, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Eglwys yr Alban, Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru), Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a’r Eglwys yng Nghymru.


* Erbyn 31 Mai, roedd mwy na 3,400 o’r 50,000 o eglwysi yn y Deyrnas Unedig yn aelodau o un o’r cynlluniau canlynol: Eco Church (Cymru a Lloegr) 2,800; Eco Congregation Scotland 500; Eco Congregation Ireland; Live Simply (Eglwysi Catholig yng Nghymru a Lloegr) 120 o blwyfi.


bottom of page