Search

Yr Eglwys fel ymatebwyr brys

Blog y Dr Ruth Valerio, Cyfarwyddwr Eiriolaeth a Dylanwadu Byd-eang, Tearfund



Mewn ymateb i gyfweliad a wnes yn ddiweddar ar Radio 4, yn ymwneud â swyddogaeth yr Eglwys mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, daeth trydariad yn dweud: ‘Mae cymunedau crefyddol yn cyfrif am 80 y cant o boblogaeth y byd a hwy fu’n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd. Pam nad yw hi’n amlwg mai’r ateb yw dilyn yr arweiniad seciwlar, rhoi heibio dychmygion crefyddol a gwneud rhywbeth defnyddiol (fel y gwna’r rhan fwyaf o wledydd seciwlar y Byd Cyntaf)?’

Fe wnes atgoffa’r sawl a oedd yn trydar yn garedig mai gwledydd y Byd Cyntaf a achosodd y broblem yn y lle cyntaf ac a fu’n gyndyn am ddegawdau i weithredu o ddifrif ynglŷn â’r sefyllfa, er eu bod yn gwybod yn iawn am rybuddion y gwyddonwyr ein bod yn wynebu argyfwng, ar gyfer pobl a byd natur yn ehangach.

Yn Tearfund, fe glywn, bob dydd, am y ffordd mae’r argyfwng hinsawdd yn distrywio bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi. Mae cyfnodau amlach o sychder a llifogydd amlach yn golygu difetha cnydau, bod pobl yn llwgu, colli cartrefi a swyddi a bod plant yn mynd heb addysg. Mae miliynau o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi oherwydd bygythiadau’n gysylltiedig â’r tywydd, ac yn 2016 gwelsom lefelau newyn byd-eang yn cynyddu am y tro cyntaf mewn degawd, gyda newid hinsawdd yn un o’r prif resymau am hynny, ynghyd â rhyfela (sydd ei hun, wrth gwrs, yn aml yn cael ei ysgogi gan ffactorau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd).


Ac mae’r amgylchedd ehangach yn wynebu argyfwng hefyd. Mae ein gweithgarwch dynol yn newid y greadigaeth mewn ffordd sylfaenol: canfu adroddiad rhynglywodraethol o bwys fod 66 y cant o amgylcheddau morol a 75 y cant o amgylcheddau tirol wedi profi newid oherwydd ein gweithgarwch ni, gyda chanlyniadau echrydus wrth i ecosystemau chwalu a rhywogaethau ddiflannu ar raddfa ddychrynllyd. Newid hinsawdd yw un o brif achosion difrod o’r fath.


Felly, prin y gellir gwadu ein bod bellach yn wynebu argyfwng hinsawdd, ac ydy, mae’r Eglwys yng ngwledydd y Gogledd, ynghyd â gweddill y gymdeithas yn y gwledydd hynny, wedi bod yn gyfrifol amdano. Ond nid dyna ddiwedd y stori: mae’r Eglwys mewn sefyllfa unigryw i fod yn ymatebwr brys.


Rydym yn addoli Duw sy’n creu, yn cynnal ac yn achub, a Duw sy’n ein galw nid i sefyll o’r neilltu’n ddiymadferth ond i weithredu. Menter yw Sul yr Hinsawdd ar ran llawer o eglwysi ledled Prydain ac Iwerddon i ymateb i’r alwad honno. Yn ogystal â’ch annog i gynnal gwasanaeth Sul yr Hinsawdd, bydd yn eich arwain i weithredu, o ddechrau’r drafodaeth o fewn eich eglwys i weithredu ynghylch effaith eich eglwys ar yr hinsawdd a’r amgylchedd ac at ymgysylltu ag eraill a defnyddio’ch lleisiau a’ch dylanwad i sicrhau newid. Mae partneriaid Cristnogol Sul yr Hinsawdd wedi casglu ynghyd amrywiaeth wych o adnoddau i’ch cynorthwyo ar bob cam o’r daith – megis y Pecyn Cymorth Argyfwng Hinsawdd.


Mae cyn-Archesgob Polynesia, Winston Halapua, yn cyfeirio at y modd, pan fydd angen cyhoeddi rhywbeth o bwys yn Ynysoedd y Môr Tawel, y byddir yn chwythu cragen dro fel corn gwlad. Meddai:

‘Mae angen i ni chwythu cragen dro i ddeffro’r byd i’r perygl, nid dim ond i ni ninnau ond i’r holl ddaear. Mae angen i ni alw am weithio ar y cyd i ofalu am ein cartref cyffredin. Mae angen i ni godi lleisiau proffwydol heddiw. Rydym yn wynebu argyfyngau mawrion ac mae angen i ni eu hwynebu gyda’n gilydd.’[1]

Mae’r gragen dro wedi’i seinio – cymrwn sylw o hynny a gweithredwn.



[1] R. Valerio, Saying Yes to Life (SPCK: 2019), 129.


 

Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar sut y gall eglwysi ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Gweler ein hadnodd diweddaraf yma i’ch cynorthwyo i ymateb i’r argyfwng hinsawdd mewn addoliad, drwy ymrwymo i weithredu ac wrth alw am newid. Cewch hefyd glywed hanesion Gateway Church yn Leeds, a Laura yn Taunton.