top of page

Hinsawdd a Chyllid

Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau i'ch helpu chi i archwilio thema Hinsawdd a Chyllid mewn gweddi, mewn ymrwymiad i weithredu ac ymuno ag eraill i alw am ddefnydd moesegol o adnoddau ariannol. Lluniwyd yr adnoddau canlynol gan y tîm yn Operation Noah, elusen Gristnogol sy'n gweithio gyda'r Eglwys i ysbrydoli gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

Gweithgareddau


Straeon

 

Gweddïau: ar gyfer amseroedd penodol mewn gwasanaethau (eiriol, mawl, cyffes, ymgysegru) neu ar gyfer gweddi unigol.

 

Gweddi am fuddsoddiad moesegol (wedi'i addasu o weddi gan Lya Vollering):

Annwyl Arglwydd, rydyn ni'n perthyn i ti. 

Mae’r cyfan yr ydym ac sydd gennym yn eiddo i ti.

Helpa ni i ddiogelu popeth rwyt ti wedi'i roi i'n gofal. 

Arllwysa bŵer dy gariad, er mwyn inni amddiffyn popeth sy'n fregus: 

Y Fam Ddaear a'i holl greaduriaid. 

Anfon dy Ysbryd Glân i’r rhai ohonom sy’n gyfrifol am arian ac adnoddau.

Helpa ni i fuddsoddi'n ddoeth ym mhopeth sy'n meithrin ac yn amddiffyn,

gan niweidio neb. 

Annog ni, fe ddeisyfwn, yn ein brwydr am gyfiawnder, cariad a heddwch. Amen

 

Gweddi Laudato Si

 

Hunan-ymholi Ecolegol gan Joseph Carver SJ

  • Mae'r greadigaeth i gyd yn adlewyrchu harddwch a bendith delwedd Duw. Ble roeddwn i'n fwyaf ymwybodol o hyn heddiw?

  • A allaf nodi sut y gwnes ymdrech ymwybodol i ofalu am greadigaeth Duw yn ystod y dydd hwn?

  • Pa heriau neu lawenydd ydw i'n eu profi wrth i mi gofio fy ngofal am y cread?

  • Sut alla i bontio’r bylchau yn fy mherthynas â'r greadigaeth, a finnau mor barod i feddwl fy mod yn deall pob dim?

  • Fel y dychmygaf yfory, gofynnaf am y gras i weld y Crist Ymgnawdoledig yn rhyng-gysylltiad deinamig i’r holl greadigaeth.

 

Emynau a chaneuon - sy'n cyd-fynd â'r thema ac y gellir eu defnyddio mewn addoliad unigol neu ar y cyd.

 

Fideos - i'w defnyddio mewn gwasanaethau neu i'w rhannu ar-lein:

 

Ymrwymo

Codi’ch llais

  • Siaradwch ag aelodau eraill eich eglwys am yr argyfwng hinsawdd a phwysigrwydd dadfuddsoddi o danwydd ffosil.

  • Gofynnwch i weinidog neu drysorydd eich eglwys a ellir trafod dadfuddsoddi yn eich cyfarfod cyngor eglwys neu CSP nesaf.

  • Os yw eich eglwys yn gwneud ymrwymiad dadfudsoddi, rhowch wybod i Operation Noah ac i fuddsoddwyr yr Eglwys cenedlaethol / rhanbarthol yn eich enwad.

  • Ymunwch â'r cyhoeddiad dadgyfeirio byd-eang nesaf ar gyfer sefydliadau ffydd ym mis Mai 2021.

  • Lledaenwch y gair: rhoi cyhoeddusrwydd i'ch penderfyniadau yn y cyfryngau, gan gynnwys y wasg a'r radio lleol, cyhoeddiadau sy'n seiliedig ar ffydd a'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn ysbrydoli eraill ac yn lluosi'ch effaith.

  • Cysylltwch ag eraill sy'n ymgyrchu dros ddadfuddsoddi yn eich enwad i gynyddu eich effaith.  Cysylltwch ag Operation Noah i ddarganfod mwy.

  • Darganfyddwch fwy am sut mae'ch pensiwn yn cael ei fuddsoddi a newid i'r opsiwn moesegol lle bynnag y bo modd.

 

Ewch i wefan ymgyrch Operation Noah, Bright Now, i gael mwy o wybodaeth am ddadfuddsoddi o danwydd ffosil a buddsoddi mewn dewisiadau amgen glân.

bottom of page