top of page

Ymrwymo

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gwyddom y bydd raid i bawb ohonom ymrwymo i weithredu hirdymor i leihau allyriadau tŷ gwydr.

 

Mae Sul yr Hinsawdd yn annog eglwysi lleol i wneud eu hymrwymiadau eu hunain i weithredu hirdymor ynghylch yr amgylchedd. Bydd y gweithredu hynny’n benodol i bob cyd-destun ac yn eich cynorthwyo i symud ymlaen at y cam nesaf o weithredu ynghylch yr hinsawdd.

 

Ar 5 Medi 2021, byddwn yn cyfuno’r ymrwymiadau a’r galwadau a wnaed gan eglwysi lleol ac yn eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Cyn COP26, byddwn yn dangos i’n harweinwyr gwleidyddol ein bod yn eu cefnogi i weithredu’n eofn, yn gyfiawn ac yn dosturiol ynghylch y mater hwn. 

 

Cofrestrwch eich ymrwymiad Sul yr Hinsawdd cyn 5 Medi, fel y gallwn eich cyfrif ymhlith y miloedd o eglwysi sy’n dangos i’r Llywodraeth eu bod yn barod i weithredu ynghylch newid hinsawdd.

 

Beth allwch chi ymrwymo i’w wneud?

  • Ymunwch â chynllun gwyrddu eglwysi. Ar gyfer eglwysi yn yr Alban ymunwch ag Eco Congregation Scotland, ar gyfer eglwysi yng Nghymru a Lloegr ymunwch ag Eco Church ac ar gyfer cynulleidfaoedd Catholig ymunwch â Live Simply.

  • Os ydych eisoes wedi ymuno ag un o’r cynlluniau hyn, ymrwymwch i fynd ymhellach drwy anelu at ennill gwobr neu at ymrwymiad lefel uwch. 

  • I eglwysi yn yr Iwerddon gofrestru ar gyfer Eco-Gynulleidfa’r Iwerddon.

bottom of page