top of page

Codi llais

Cofrestrwyd dros 2,200 o wasanaethau Sul yr Hinsawdd yn y cyfnod cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, a mae llawer o eglwysi wedi cofrestru ar gyfer cynllun gwyrddio ac wedi llofnodi’r datganiad Nawr yw’r Amser.
 
Tra bod ymgyrch Sul yr Hinsawdd wedi dod i ben, rydym am annog eglwysi i barhau i gynnal gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, i barhau i ymrwymo i un o’r cynlluniau gwyrddio, ac i barhau i godi eu lleisiau ac ymgyrchu dros ddyfodol gwyrddach a thecach y tu hwnt i COP26.

 

Gwybodaeth i Eglwysi ar Faterion Allweddol sy'n Gysylltiedig â'r Hinsawdd ar ôl COP26
 
Mae’r Rhwydwaith Materion Amgylcheddol, a wireddodd ymgyrch Sul yr Hinsawdd, yn argymell y tair thema ganlynol fel blaenoriaethau ar gyfer ymgyrchu hinsawdd gan eglwysi yn 2022, tra bod y DU yn dal i fod â llywyddiaeth COP: rhoi terfyn ar ddatblygiad tanwydd ffosil yn y DU, iawndal am Golled a Difrod, a Thröedigaeth Ecolegol. Gallwch ddod o hyd i bapur briffio ar y materion hyn a luniwyd mewn cydweithrediad â'r aelodau yma.
 
Isod rydym yn rhestru sut y gallwch barhau i ‘siarad i fyny’ gydag un neu fwy o bartneriaid Sul yr Hinsawdd:

A Rocha UK

 

Ymunwch â chymuned Wild Christian A Rocha UK i dderbyn gwybodaeth ac anogaeth ar sut i fwynhau ac amddiffyn byd natur. Yn union fel y mae Eco Church yn becyn cymorth ar gyfer eglwysi sy’n mynd yn wyrddach, mae Wild Christian yn ei ategu, trwy gefnogi unigolion a theuluoedd i ofalu am gread Duw yn eu cartrefi a’u cymunedau, a thrwy godi llais.

Fel rhan o Wild Christian byddwch yn derbyn e-bost misol gydag awgrymiadau a syniadau ar gyfer mwynhau, meithrin ac amddiffyn y greadigaeth. Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am ein rhaglen digwyddiadau gyda chyfleoedd i ddysgu am natur, i gyfarfod fel cymuned, ac i ymgyrchu ar natur, newid hinsawdd a materion amgylcheddol eraill.

 

CAFOD

Mae’r wobr livesimply yn gyfle i gymunedau Catholig – plwyfi, ysgolion, urddau crefyddol a chaplaniaethau – ymateb i wahoddiad y Pab Ffransis yn Laudato Si’ i “weithio yn hael ac yn dyner wrth amddiffyn y byd hwn y mae Duw wedi ei ymddiried i ni”. Fe’i dyfernir i gymunedau sy’n gallu dangos sut y maent wedi bod yn byw yn syml, mewn undod â phobl mewn tlodi ac yn gynaliadwy gyda’r greadigaeth.

 

Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol wedi cynhyrchu pecyn adnoddau i’ch helpu chi i feddwl drwy sut y gall eglwysi a’u haelodau greu ymgyrchoedd effeithiol a heriol i sicrhau cyfiawnder â’n cymdogion byd-eang.


Gallwch ddefnyddio’r pecyn cymorth i:

 

  • ddysgu mwy am redeg ymgyrch.

  • cael mwy o bobl i gymryd rhan.

  • dysgu sut i weithio gyda'ch gwleidydd lleol.

  • cefnogi un o ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol, neu hyd yn oed dechreu eich ymgyrch eich hun.

Climate Stewards

Mae Climate Stewards yn darparu cyfrifiannell carbon ar-lein rhad ac am ddim sy’n galluogi unigolion, eglwysi a sefydliadau eraill i fesur eu hôl troed carbon. Unwaith y byddwch yn gwybod eich ôl troed carbon gallwch gymryd camau i'w leihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. I wneud iawn am allyriadau na ellir eu hosgoi, rydym yn cynnig gwrthbwyso carbon trwy brosiectau cymunedol y gellir ymddiried ynddynt yn y byd mwyafrifol, gan ddod â buddion lluosog i bobl a lleoedd yn ogystal â lliniaru CO2.

Cytûn (Churches together in Wales)

Mae Cytûn a nifer o’n haelod enwadau a mudiadau yn bartneriaid yng nghlymblaid Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a’i ymgyrch Climate Cymru sy’n parhau yn dilyn COP26. Ymwelwch â’u gwefannau am y newyddion diweddaraf ac awgrymiadau am sut i godi llais yng Nghymru wrth i ni symud at COP27 yn Nhachwedd 2022, ac wrth i Lywodraeth Cymru barhau i weithredu ei chynllun Cymru Sero Net. Mae cynllun presennol Cymru Sero Net yn anelu at y flwyddyn 2050, ond yn Rhagfyr 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n comisiynu gwaith ar y posibiliadau o anelu at Gymru Sero Net erbyn 2035. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi pennu 2030 yn ddyddiad targed Sero Net iddi hi ei hun, a gellir gweld y newyddion ac adnoddau diweddaraf o amgylch hyn ar ei thudalen we bwrpasol, a fydd o ddiddordeb hefyd i Gristnogion o draddodiadau eraill.

Green Christian

Gall eglwysi ledled y DU gofrestru fel cefnogwyr y Bil Argyfwng yr Hinsawdd ac Ecoleg (CEE Bill). Mae’r grŵp ymgyrchu Zero Hour yn galw am y mesur hwn fel bod cyfraith y DU yn mynd i’r afael â maint gwirioneddol argyfwng yr hinsawdd a’r cread yn unol â’r wyddoniaeth ddiweddaraf. Y bil yw’r unig ddeddfwriaeth arfaethedig sydd gerbron Senedd y DU sy’n sicrhau ymateb cynhwysfawr a chydgysylltiedig i’r argyfwng. Darllenwch ganllaw cam wrth gam Green Christian: Gwahoddwch eich eglwys i gefnogi’r bil!

Y Daith i 2030

Sut ydym ni am i gymunedau ein plwyfi fod yn 2030? Mae'r Daith i 2030 yn fudiad sy'n cefnogi plwyfi i weithredu ar gri’r ddaear a chri'r tlodion. Mae'r wefan yn datblygu 'canllaw plwyf i Laudato Si,' yn cynnwys ysbrydoliaeth ar gyfer gweithredu, straeon gan blwyfi, cyfeiriadur o gysylltiadau gweithredu cymdeithasol yr esgobaethau lleol, a gwybodaeth am sut mae themâu'n cysylltu â nodau Laudato Si a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

 

Joy in Enough

Mae cwrs Green Christian, Plenty!, yn gallu helpu eglwysi i benderfynu ar y camau y gallant eu cymryd i godi eu llais.

Mae Plenty! yn eich gwahodd i ddychmygu cymdeithas lle mae gan bawb ddigon i fyw bywyd da, lle mae cymunedau’n ffynnu, a’r Cread yn cael ei iacháu ac yn ffynnu.

Dros chwe wythnos, bydd y cwrs yn mynd â chi a’ch cymuned drwy rai o’r cwestiynau anodd ynghylch anghydraddoldeb, prynwriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd – y cyfan yn digwydd drwy sgyrsiau, straeon a chwestiynau – ac yn arwain at y cwestiwn pwysig hwnnw o’r hyn y gallwch chi a’ch eglwys ei wneud i helpu creu byd tecach a gwyrddach.

 

Joy in Enough – Awakening to a new economics

​Tearfund

Ymunwch â Tearfund i weithredu ar newid hinsawdd – mae’r adnoddau yn cynnwys astudiaethau Beiblaidd, ffilmiau, ystafell ddianc yr hinsawdd, gweddïo a gweithredoedd ymgyrchu. Ychwanegir at y dudalen we hon yn rheolaidd.

Mae Tearfund hefyd yn argymell edrych ar Becyn Cymorth Argyfwng yr Hinsawdd.

 

USPG - Cwrs Astudio ‘Ar Gyfer Amser fel Hwn’


Ydych chi’n chwilio am ffordd i ysgogi aelodau o gymuned eich Eglwys o ran gofalu am y cread? Mae Ar Gyfer Amser fel Hwn yn gwrs astudio chwe sesiwn wedi'i gynllunio at ddefnydd gan grŵp neu unigolyn. Gan ganolbwyntio ar astudiaethau achos ysbrydoledig o broffwydoliaeth, gwytnwch, gweithredu o bob rhan o’r eglwys fyd-eang, mae hwn yn adnodd gwych i hwyluso trafod a gweithredu o fewn cymuned eich eglwys leol; galluogi pawb i gymryd rhan yn ein galwad genhadol i weithredu dros gyfiawnder i bobl a’r blaned.


https://d3hgrlq6yacptf.cloudfront.net/uspg/content/pages/documents/1610713902.pdf

 

bottom of page