Church Energy
Ynni eglwysig
(trydan, olew, nwy, a solar)
Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau i’ch helpu i dorri effaith amgylcheddol ynni yn eich eglwys neu gapel a’ch neuadd eglwysig neu festri, trwy ei gyrchu o gyflenwyr mwy ‘gwyrdd’ neu ei gynhyrchu ar y safle eich hun. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn gan Catherine Ross a Jo Chamberlain o Raglen Amgylcheddol Eglwys Loegr.
Gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr Hinsawdd
Archwilio’n ddiwinyddol pwysigrwydd ffynhonnell ein hynni
Ffynhonnell yr holl ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yw'r haul. Mae yna lawer o syniadau a themâu ynghylch yr haul y gellir eu harchwilio mewn gwasanaeth neu grŵp bach:
Yn Genesis 1.16 a Salm 74.16 gwelwn yr haul wedi’i osod yn ei le i lywodraethu'r dydd. Mae'n nodi'r dyddiau a'r tymhorau, gan osod pethau yn eu hamser a'u lle iawn. Mae llawer i'w ddweud dros ddysgu gweithio gyda rhythmau, amseroedd a thymhorau Duw. Mae cyfieithiad The Message o Mathew 11 28-30 yn ei gyfleu yn hyfryd:
"Wyt ti wedi blino? Wedi ymlâdd? Wedi cael llond bol o grefydd? Dewch ataf i. Dewch ymaith gyda mi a byddwch yn adfer eich bywyd. Byddaf yn dangos i chi sut i gymryd seibiant go iawn. Cerddwch gyda mi a gweithiwch gyda mi - gwyliwch sut rydw i'n gwneud. Dysgwch rythmau gras. ‘Wnaf i ddim gosod unrhyw beth trwm neu drwsgwl ar eich cefn. Cadwch gwmni i mi a byddwch chi'n dysgu byw'n rhydd ac yn ysgafn." (efelychiad Cymraeg)
Mae’r haul yn rhoi cynhesrwydd a gwres inni, fel rhan o ddarpariaeth Duw ar gyfer ein hanghenion beunyddiol. Yn wir, fel y dywed Iago 1:17, mae pob rhodd dda a pherffaith oddi uchod, yn dod i lawr oddi wrth Dad y goleuadau nefol.
Mae absenoldeb yr haul, pan fydd yn troi’n dywyll mewn eclips, yn arwydd o ddiwedd dyddiau (Joel 2:10), pan fydd goleuni Duw yn olau tragwyddol (Eseia 60.19-20). Yn y pen draw, mae'r Beibl yn pwyntio at Dduw fel ffynhonnell pob peth, ffynhonnell hyd yn oed grym yr haul.
Ac yn olaf, wrth feddwl am yr haul yn codi, cawn ein tywys yn ein meddyliau yn ôl i'r atgyfodiad. Rydyn ni'n siarad am dywyllwch yn cael ei drechu, a sawl gwaith yn ei efengyl, mae Ioan yn sôn am gerdded gyda Iesu fel cerdded yn y goleuni, a Iesu fel goleuni'r byd.
Fel Cristnogion, mae gennym gyfrifoldeb hefyd i fod yn oleuni i’r byd (Mathew 5:14). Mae'r camau a gymerwn i ofalu am y greadigaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn dyst i'n ffydd. Mae'r adnodau yn efengyl Mathew yn mynd ymlaen i ddweud na ddylid cuddio ein goleuni. Y goblygiad yw na ddylid cuddio'r gweithredoedd hyn, felly byddwch yn feiddgar a dywedwch wrth bobl yn eich cymuned beth mae eich eglwys wedi'i wneud. Ac os yw’n troi allan fod gosod paneli solar ar do eich eglwys yn bosibl, meddyliwch amdanynt fel symbol gweladwy o'ch tystiolaeth yn y byd.
Gweddi:
Bendith o’r Alban
Bydded bendith y goleuni arnoch chi - goleuni tu allan a goleuni oddi mewn.
Bydded i oleuni’r haul bendigedig ddisgleirio arnoch chi fel tân mawn mawr,
fel y gall dieithryn a ffrind ddod i gynhesu ei hun wrtho.
A bydded i oleuni dywynnu o'r ddwy lygad ohonoch chi,
fel cannwyll wedi'i gosod yn ffenest y tŷ,
yn gwahodd y crwydryn i ddod i mewn allan o'r storm.
A bydded bendith y glaw arnoch chi,
bydded iddo guro ar eich Ysbryd a'i olchi yn deg ac yn lân,
a gadael yno bwll disglair lle mae glas y Nefoedd yn tywynnu,
ac weithiau seren.
A bydded i fendith y ddaear fod arnoch chi,
yn feddal o dan eich traed wrth i chi gamu ar hyd y ffyrdd,
yn feddal oddi tanoch wrth i chi orwedd arno, wedi blino ar ddiwedd dydd;
a bydded iddi orffwys yn fodlon drosoch pan fyddwch, o'r diwedd, yn gorwedd oddi tani.
Bydded iddi orffwys mor ysgafn drosoch fel y gall eich enaid fod allan oddi tani yn gyflym;
i fyny ac i ffwrdd ac ar ei ffordd at Dduw.
Ac yn awr bydded i'r Arglwydd eich bendithio, a'ch bendithio'n garedig. Amen.
Ymrwymo
Yr ynni y mae eglwys yn ei ddefnyddio yw cyfran fwyaf ei hôl troed carbon. Yr hyn wnewch chi amdano yw un o'r camau allweddol wrth weithio tuag at gynlluniau gwyrddio'r eglwys. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofrestru ar gyfer y cynllun ar gyfer eich eglwys:
-
Ar gyfer rhan fwyaf eglwysi Cymru a Lloegr rydym yn eich annog i ymuno â'r rhaglen Eco Church.
-
Ar gyfer cynulleidfaoedd Catholig, rydym yn awgrymu ymuno â Live Simply.
Adnoddau i'ch helpu chi i ymrwymo i newid fel cymuned
Y cam hawsaf y gall eglwys ei gymryd tuag at dorri ei hôl troed carbon yw newid i drydan 100% adnewyddadwy. Dangosodd yr adroddiad diweddar ar “Ôl-troed Ynni” Eglwys Loegr y gallai newid i drydan gwyrdd dorri ôl troed carbon yr eglwys honno o 22%.
Heddiw, beth am ddarganfod pa dariff y mae eich eglwys yn ei ddefnyddio, a pha mor ‘wyrdd’ ydyw?
Tariff trydan adnewyddadwy 100% + gwresogi trydan = carbon sero net
Os yw'ch eglwys yn cael ei chynhesu gan drydan (boed yn wresogyddion panel, gwresogyddion dan y corau, gwresogyddion crog, gwresogyddion pelydrol is-goch, neu bympiau gwres) ac os yw'ch trydan yn dod o dariff adnewyddadwy 100%, yna mae eich eglwys i raddau helaeth yn sero net o ran carbon. Er nad yw mor syml â hynny, nid yw'n bell o'i le. Hyd yn oed os yw'ch gwres yn dal i fod yn olew neu’n nwy, yna mae newid yn fuddiol, oherwydd o leiaf mae'r trydan sy'n rhedeg eich goleuadau, offer clyweledol, ac offer cegin yn troi yn sero net.
Nwy ‘gwyrdd’ bio-methan 100% + gwresogi nwy = carbon sero net
Yn llai cyffredin, ac ychydig yn fwy dryslyd, yw holl destun ‘nwy gwyrdd’. Mae yna un neu ddau o ddarparwyr sy'n gwerthu nwy 100% bio-methan, ac eraill sy'n dweud eu bod yn cynnig nwy gwyrdd ond yn cyflawni hyn trwy ddarparu nwy safonol o’r prif gyflenwad safonol (neu gymysgedd) a phrynu gwrthbwysau carbon. Ar hyn o bryd, mae bio-methan 100% yn eithaf drud, sawl gwaith cost nwy safonol. Fodd bynnag, os yw eich eglwys yn barod i dalu’r gost ychwanegol hon, yna bydd newid i fiomethan 100% i redeg eich boeler nwy yn golygu eich bod yn gwresogi’ch eglwys trwy ddull carbon sero net.
Os penderfynwch edrych ar gwmni sy'n honni bod ganddo nwy carbon-niwtral trwy ei wrthbwyso, byddem yn cynghori gwirio'n ofalus pa fath o wrthbwyso y maent yn ei ddefnyddio.
Ond pa mor wyrdd yw gwyrdd?
Gall fod yn anodd iawn gweithio allan pa mor ‘wyrdd’ yw unrhyw dariff penodol. Efallai yr hoffech chi ystyried:
-
A yw tariffau’r cwmni i gyd yn adnewyddadwy, ac os na, pa mor fawr yw’r gyfran adnewyddadwy;
-
A ydynt yn dibynnu ar wrthbwyso i ddod yn adnewyddadwy 100%;
-
A oes unrhyw gyfran yn cael ei gynhyrchu gan ynni niwclear;
-
A oes gan y cwmni ei gynhyrchiant ei hun a faint, neu a yw'n prynu Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGOs) gan eraill;
-
A yw'r trydan i gyd yn cael ei gynhyrchu yn y DU;
-
P'un a yw'r cwmni'n eiddo’n llwyr neu'n rhannol i, neu’n elwa gan fuddsoddiadau gan, un o’r prif gyflenwyr tanwydd ffosil;
-
A yw'r cwmni ei hun yn buddsoddi mewn capasiti adnewyddadwy newydd.
-
A yw'r cwmni wedi ymrwymo i beidio ag adeiladu unrhyw orsafoedd pŵer tanwydd ffosil newydd.
Gall fod yn anodd gwybod yr atebion heb ymchwilio.
Er ei bod ychydig fisoedd oed, mae'r erthygl hon o gylchgrawn Which? yn ddarllen defnyddiol iawn, a gallwch sgrolio i lawr i'r tabl cymharu: https://www.which.co.uk/news/2019/09/how-green-is-your-energy-tariff/
Mae’r cylchgrawn Ethical Consumer wedi graddio cwmnïau trydan a nodi'r pethau y gall cwmnïau eu gwneud a allai wneud gwahaniaeth ystyrlon. Y rhain yw: adeiladu ynni adnewyddadwy eu hunain; prynu trydan adnewyddadwy trwy ‘gytundebau prynu pŵer’ (PPAs), sy’n rhoi diogelwch i’r sawl sy’n ei gynhyrchu; ac ymrwymo i beidio ag adeiladu mwy o gynhyrchiant yn defnyddio tanwydd ffosil. Y cwmnïau a gyflawnodd yr amodau hyn y tro diwethaf iddynt gael eu sgorio oedd Ecotricity, Good Energy a Green Energy UK. I ddarllen y graddau manwl, mae angen i chi danysgrifio i'r cylchgrawn, ond cewch trosolwg defnyddiol iawn yn y brif erthygl.
Sut mae newid?
Mae rhai enwadau yn rhedeg eu cynlluniau caffael ynni canolog eu hunain gyda thariff gwyrdd. Cysylltwch â'ch prif swyddfa i ddarganfod a oes cynllun felly ar gael.
Gall eglwysi yr Eglwys yng Nghymru newid yn hawdd i drydan 100% adnewyddadwy o’r DU trwy'r Fasged Ynni gan Parish Buying, a gallant ofyn ar yr un pryd am ddyfynbris ar gyfer nwy gwyrdd. https://www.parishbuying.org.uk/categories/energy/energy-basket Mae cyd-gaffael yn debygol o roi gwell pris i chi na chaffael yn uniongyrchol.
Gallwch fod yn hyderus bod y trydan a gaffaelir trwy'r Fasged Ynni i gyd yn ynni adnewyddadwy 100% o’r DU heb unrhyw ynni niwclear yn y gymysgedd. Y cwmni ynni sy'n ei ddarparu yw Total Oil and Gas.
Os yw hyn yn peri pryder i'ch eglwys, gallwch ofyn i Parish Buying ddarparu dyfynbris sy’n cynnwys opsiynau gan gwmni trydan arbenigol sy'n gwbl adnewyddadwy yn ei holl weithgareddau.
Os nad yw'ch enwad yn cynnig tariff gwyrdd canolog, gall unrhyw eglwys newid trwy Church Buying, sy'n defnyddio cyflenwyr ynni sydd ond yn rhoi trydan i'r grid cenedlaethol o ffynonellau gwyrdd 100%.
Beth am gynhyrchu eich trydan eich hun trwy baneli solar?
Mae gan lawer o eglwysi doeau di-gysgod ar oleddf yn wynebu tua’r de; mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer paneli solar.
Fodd bynnag, mae llawer o eglwysi hefyd yn adeiladau rhestredig, sydd angen caniatâd cynllunio, a chyda thoeau ac adeiledd hanesyddol. Gall fod yn ddrud ac yn anodd cael mynediad at doeau eglwys. Felly mae rhai cyfyngiadau gwirioneddol i'w hystyried. Fesul achos y dyfernir a yw paneli yn addas ac yn derbyn caniatâd. Dylech bob amser fynd i'r afael â'r pethau sylfaenol yn gyntaf; cynnal a chadw, lleihau colli gwres, a gwneud eich systemau'n fwy effeithlon.
Ble i ddechrau gyda phaneli solar?
Dewch i wybod mwy trwy wylio gweminar Eglwys Loegr ar solar yr eglwys: https://www.churchofengland.org/about/policy-and-thinking/our-views/environment-and-climate-change/webinars-getting-net-zero-carbon
A darllenwch ganllaw Historic England: https://historicengland.org.uk/images-books/publications/eehb-solar-electric/heag173-eehb-solar-electric-photovoltaics/
Lle gwych i ddechrau yw gofyn am asesiad pen desg am ddim gan osodwr solar lleol. Gall eglwysi’r Eglwys yng Nghymru ymuno â pheilot ar Parish Buying. (https://www.parishbuying.org.uk/categories/net-zero-2030/solar-pv )
Dewiswch osodwyr achrededig bob amser o gyfeirlyfr MCS: https://mcscertified.com/find-an-installer/ Hefyd, ar eich cyfle cyntaf, cysylltwch â’r corff enwadol neu’r awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am roi caniatâd a gofynnwch a allant roi barn gynnar i chi am addasrwydd eich eglwys ar gyfer paneli solar.
Meddyliwch yn ofalus am y lle gorau ar gyfer paneli solar. Beth am neuadd eich eglwys, neu'ch ysgol eglwysig leol? Os yw'ch eglwys wedi'i rhestru, neu mewn ardal gadwraeth, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch chi, felly gwerthuswch ystod o opsiynau ar gyfer lleoliad a dyluniad, i'ch helpu chi i ddadlau bod y budd yn gorbwyso'r niwed.
Codi llais
Codwch eich llais a llofnodwch ddatganiad y Glymblaid Hinsawdd, Nawr yw’r Amser, fel eglwys neu fel unigolyn. Y peth cyntaf y mae'n galw amdano yw chwyldro ynni glân.
Ac yna - gwnewch y newid. Y peth pwysicaf y gall eich eglwys ei wneud o ran ynni yw defnyddio ynni adnewyddadwy. Felly mae ein galwad am weithredu yn syml: Gwnewch y newid.
Os ydych chi am fynd â hi ymhellach, anogwch bawb yn eich cynulleidfa i newid hefyd. A allech chi redeg diwrnod newid, fel y gwnaeth Eglwys Sant Ioan yn Hoxton? https://www.compassionatecommunitieslondon.org.uk/conversations/switch-days