top of page
Search

Beth nesaf? Camu ymlaen ar ôl COP26


Bu’n bythefnos bron ers diwedd COP26 yn Glasgow. Ac er y daethpwyd i rai cytundebau i'w croesawu yn Glasgow yn COP26, roedd canlyniadau'r gynhadledd ar y cyfan islaw’r hyn oedd ei angen i gadw cynhesu byd-eang yn is na 1.5 gradd.


Yn wyneb hyn, rydym wedi annog Llywodraeth y DU i ddangos arweinyddiaeth foesol ac i gymryd camau mwy beiddgar gartref am yr argyfwng hinsawdd yn dilyn COP26. Gyda'r tebygrwydd y gofynnir i wledydd wella eu haddewidion i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr o fewn blwyddyn - yn lle aros am bum mlynedd arall - mae'n fater brys bod gwledydd cyfoethog yn cynyddu eu gweithredoedd domestig cyn hynny i fod mewn sefyllfa i ymrwymo'n fwy yn rhyngwladol. (Gallwch weld sut y bu i Eglwysi a mudiadau ymateb yma).


Mae cynnal COP26 yn y DU wedi bod yn gatalydd i eglwysi ledled Prydain ac Iwerddon ymwneud â gweithredu am yr hinsawdd gyda mwy na 2,200 o eglwysi yn cynnal oedfaon yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, yn ymrwymo i weithredu'n ymarferol yn eu cymunedau lleol, ac yn codi llais ar faterion hinsawdd dros y flwyddyn ddiwethaf. I lawer o gynulleidfaoedd, Sul yr Hinsawdd oedd y tro cyntaf iddynt weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

Meddai Andy Atkins, Cadeirydd Sul yr Hinsawdd a Phrif Swyddog Gweithredol A Rocha UK:


“Mae'n hanfodol ein bod yn gweld COP26 nid fel diwedd ymdrechion byd-eang i osgoi trychineb hinsawdd, ond fel cam ar hyd y ffordd, gyda llawer mwy eto i'w wneud. Mae gan eglwysi lawer i'w gynnig i fynd i'r afael â'r her hon, a rhaid inni ddefnyddio ein holl adnoddau - adeiladau, tir, dylanwad lleol a llais genedlaethol - i ymateb. Gyda'n gilydd, mae eglwysi sy'n cymryd rhan yn Sul yr Hinsawdd wedi cyflawni llawer, ond rydyn ni ond megis dechrau.”


Mae’r clymblaid eang o enwadau a mudiadau a ddaeth ynghyd wedi dathlu pob dim a gyflawnwyd yn ystod yr ymgyrch. Ond rydym hefyd yn pwyso ar eglwysi i beidio ag aros fan hyn.


Fe all ac fe ddylai eglwysi ddal ati gyda’u hymrwymiadau i weithredu amgylcheddol, ac i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau i’r hinsawdd.


Dywedodd Hannah Brown, Swyddog Ymgysylltu ag Ymgyrchoedd ac Eglwysi yn y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd:


“Rydyn ni'n gwybod na fydd y daith o'n blaenau yn hawdd wrth i ni symud at sero-net ar draws y byd. Rydym yn diolch bod cymunedau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon wedi bod yn rhan o alluogi etifeddiaeth COP26 i fod yn fwy na thrafod cytundeb, ond hefyd wedi trawsnewid eglwysi llawr gwlad o ran gweithredu am yr hinsawdd.”.


Yn COP26, cynhaliodd Sul yr Hinsawdd stondin yn y parth gwyrdd, gan arddangos yr ymrwymiadau hyn a wnaed gan eglwysi yn ystod yr ymgyrch. Roedd hyn yn rhan o’r digwyddiadau ehangach yn y COP, a oedd oll wedi cyfrannu at wthio’r trafodaethau i lwyddo. Tra bod ffordd eto i fynd, roedd hi’n hanfodol fod lleisiau ffydd yn bresennol. Gallwch hyd yn oed weld sut y bu i dîm COP26 swyddfa’r cabinet ddathlu hynny yma.


Meddai’r Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru:


“Rydyn ni'n diolch o galon am yr hyn a gyflawnwyd dros y pythefnos diwethaf yn COP 26: am gytundebau newydd ac am y ffyrdd y mae cymaint o'r cymunedau ffydd wedi ymuno â'i gilydd i greu momentwm mor gadarnhaol er gofalu am ein planed a'i dyfodol. Gweddïwn y bydd pob cytundeb - a mwy - yn cael ei anrhydeddu, gan gydnabod fod sicrhau yfory da yn golygu parhau â’n gwaith heddiw heb oedi.”.


Beth nesaf? Sut y gallwch weithredu


Os nad diwedd y daith yw COP26, ond yn hytrach un cam arall yn unig, sut y gall eglwysi barhau i ymwneud â hyn?

Mae’n hanfodol ein bod yn cadw’r pwysau ar Lywodraeth y DU i gefnogi’r amcan o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°c. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn llywydd COP ac yn stiwardiaid Cytundeb Hinsawdd Glasgow Climate tan COP27, ac felly bydd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio’r cenhedloedd i gwrdd â’r targedau a osodwyd yn COP26.


2 funud? Arwyddwch y cerdyn


Llefarodd Boris Johnson eiriau cryfion am newid hinsawdd yn COP26 – ond a fydd Llywodraeth y DU yn dilyn y trywydd hwnnw? O ran yr hinsawdd, y gweithredu fydd yn cyfrif.


Danfonwch gerdyn i Brif Weinidog y DU eleni yn gofyn iddo sicrhau cadw’r addewidion a wnaed yn COP26, neu cynyddwch eich dylanwad trwy ychwanegu’ch enw at y cerdyn anferth fydd yn cael ei ddanfon i Rif 10 Downing Street.



10 munud? Ysgrifennwch at eich Aelod Seneddol yn San Steffan


Mae’n hanfodol fod ein ASau yn gwybod ein bod, fel pobl ffydd, wedi ein cyflyru o hyd i wthio ymlaen am newid mwy uchelgeisiol o ran yr hinsawdd. Allech chi sgrifennu at eich AS gan ddefnyddio patrwm lythyr Clymblaid yr Hinsawdd i ofyn iddynt gadw nod 1.5°c yn fyw?


Dewch o hyd i’r patrwm lythyr a sgrifennwch at eich AS nawr: https://www.theclimatecoalition.org/take-action.


Hoffech chi wybod mwy? Ymunwch â’n gweminar


Ar nos Iau 20 Ionawr am 7yh, ymunwch â thîm Sul yr Hinsawdd am ‘Sul yr Hinsawdd: Beth nesaf?’ Byddwn yn dathlu pob dim y mae cynllun Sul yr Hinsawdd wedi ei gyflawni, ac edrych tua’r dyfodol. Byddwn yn archwilio’r camau gorau nesaf i eglwysi ac unigolion eu cymryd i barhau i weithio tuag at gyfiawnder hinsawdd.



Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i chwarae ein rhan wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd.



Gallwch ddarllen datganiad i’r wasg gan Sul yr Hinsawdd yn dilyn COP26 (yn cynnwys dyfyniadau llawn gan y pedair cenedl fu’n cymryd rhan) here.







bottom of page