top of page
Search

Hinsawdd ac Ynni



Daw'r holl ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio heddiw o'r haul. Wrth gwrs, os ydym yn defnyddio paneli solar ffotofoltäig, neu baneli dŵr poeth solar, rydyn ni'n gwybod bod egni'n dod o'r haul. Mae gwres o'r haul yn creu gwahaniaethau yn nhymheredd yr aer, a mae hynny’n achosi gwynt, felly mae ynni'r haul yn y pen draw yn cynhyrchu ynni gwynt. Mae'r haul yn anweddu dŵr o foroedd a llynnoedd, ac yna mae'n bwrw glaw ar dir uchel lle gellir ei grynhoi neu ei ddefnyddio mewn ffordd arall i greu pŵer trydan dŵr. Ac mae'r egni sy'n cael ei ryddhau pan fydd unrhyw beth yn cael ei losgi yn cael ei achosi trwy ryddhau'r bondiau rhwng atomau, bondiau a ffurfiwyd yn wreiddiol gan ynni'r haul a drawsnewidiwyd yn egni cemegol i wneud i blanhigion dyfu. Cipiwyd peth o'r ynni solar hwnnw gan goed a dyfodd ychydig ddegawdau yn ôl. Ond cafodd peth o'r ynni solar hwnnw ei gloi gan blanhigion gwyrdd filiynau o flynyddoedd yn ôl, planhigion a fu farw ac a ddadfeiliodd ac a drôdd yn lo yn y pen draw, neu gan blancton a fu farw ac a ddisgynnodd i waelod y môr, gan droi yn y pen draw yn olew neu nwy.[1]


Mae Genesis 1:16 yn dweud wrthym i Dduw osod yr haul i lywodraethu’r dydd. Bob dydd, mae'r haul yn rhoi mwy o egni inni nag y gallem fyth fod ei angen. Y drafferth yw, rydym yn defnyddio ein golau haul hynafol, ffosiledig, ac yn ei ddefnyddio’n gynt o lawer nag y cafodd ei osod i lawr. Ond nid ydym yn gwneud y gorau o'r ynni sy'n cael ei adnewyddu'n ddyddiol gan godiad yr haul.


A phan fyddwn yn agor y ddaear i ryddhau ei storfa ynni, rydym hefyd yn rhyddhau’r carbon a storiwyd yno. Gwyddom bellach fod hwnnw yn lapio'r ddaear â'i effaith tŷ gwydr, gan achosi i’r tymheredd godi yn fyd-eang a'r holl anhrefn hinsawdd cysylltiedig ar draws y byd.


Go brin fod gan awdur Genesis hyn mewn golwg wrth iddo ysgrifennu. Ond thema sy'n codi dro ar ôl tro yn y Beibl yw sut mae Duw yn rhoi digon i'w bobl, ond maent yn mynnu cymryd mwy a dioddef y canlyniadau. Pan oedd pobl Dduw ar goll yn yr anialwch, rhoddodd Duw fanna iddynt ddiwallu eu hanghenion bob dydd. Ond canfu’r rhai a geisiodd gadw ychwaneg ei fod yn deor mwydod ac yn mynd yn fudr (Exodus 16). Mae'r proffwydi yn gynddeiriog yn erbyn y rhai sy'n defnyddio pwysau annheg, yn twyllo eraill ac yn cadw ychydig yn ychwaneg iddyn nhw eu hunain (Amos 8, Micah 6). A’r dyn a gafodd gnwd mor doreithiog, fel y bu iddo adeiladu ysguboriau mwy i gadw’r cyfan iddo’i hun? Efallai eich bod yn cofio iddo ddod i ddiwedd disymwth (Luc 12).


Mae Duw yn rhoi yn helaeth, yn hael. Mae ei roddion yn newydd bob bore. Daw'r drafferth pan gymerwn fwy nag sydd ei angen arnom. Mae hyn yn berthnasol i ynni gymaint ag ydyw i soflieir a manna. Sut allwn ni leihau ein dibyniaeth ar olau haul hynafol, ffosiledig, ac yn lle hynny wneud y mwyaf o ynni adnewyddadwy dyddiol yr haul? Hynny yw, mae gennym ni ddogn dyddiol digonol. Beth sydd angen i ni ei wneud i geisio byw o fewn ein dogn o haul, a pheidio â chloddio i'n cronfeydd wrth gefn, gan fynd ymhellach ac ymhellach i ddyled carbon?


Yn ein hadnodd hinsawdd ac adeiladau gwnaethom edrych ar ffyrdd i ddefnyddio llai o ynni. Y mis hwn rydym yn edrych ar ynni adnewyddadwy, gyda'r nod o'ch tywys trwy benderfyniadau ynghylch newid eich darparwr ynni neu hyd yn oed gynhyrchu'ch ynni eich hun â phaneli solar.



bottom of page