top of page
Search

Wythnos Hinsawdd Cymru



Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi Tachwedd 2-6 – dyddiadau gwreiddiol COP26 yn Glasgow – yn Wythnos Hinsawdd Cymru, gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau arlein. Gan ei bod arlein, gall pobl ar draws y byd glywed sut mae un genedl fach, trwy ei llywodraeth a’i chymdeithas sifil, yn ymateb i argyfwng yr hinsawdd, a rwy’n mawr obeithio bydd nifer dda o gefnogwyr Sul yr Hinsawdd yn ymuno’n rhithiol rywbryd yn ystod yr wythnos.


Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus cynnwys ymatebion o du ffydd ymysg llawer eraill, felly ar brynhawn Mercher am 3.30 fe fyddaf, ar ran Sul yr Hinsawdd, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel gyda Chyfeillion y Ddaear, Gwrthryfel Difodiant a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen.


Teitl ein sesiwn yw Newid yn yr Hinsawdd – pwy sy’n gyfrifol? Er nad ydw i’n cofio i Bwyllgor Llywio Sul yr Hinsawdd erioed trafod yr union gwestiwn hwnnw, fe sylweddolais fod yr ymrwymiad triphlyg rydym yn gofyn gan gefnogwyr Sul yr Hinsawdd hefyd yn cynnig ymateb Cristnogol i gwestiwn y seminar:


  • Rydym yn gofyn i eglwysi gynnal o leiaf un oedfa wedi’i chanoli ar yr hinsawdd. Tra bod oedfa yn weithred ar y cyd, mae’n dyfnhau ein perthynas bersonol â Duw y Creawdwr. Mae felly yn ein hatgoffa ein bod yn sefyll yn bersonol gyfrifol gerbron Duw. I ni yn y byd cyfoethog, mae’n sicr fod angen i bob oedfa Sul yr Hinsawdd gynnwys edifeirwch dwfn am ein ffordd o fyw a sut mae’n cyflymu’r newid yn yr hinsawdd.


  • Rydym wedyn yn gofyn i bob eglwys wneud ymrwymiad tymor-hir i un o’r rhaglenni sydd eisoes yn bodoli i leihau ein hôl troed carbon eglwysig a mynd i’r afael ag argyfyngau cysylltiedig yr hinsawdd a byd natur – megis Eco Church neu LiveSimply. Mae hynny yn ein hatgoffa ein bod ni unigolion yn byw mewn cymuned, a bod yna lawer o gamau – megis adfer natur ar dir ein heglwys neu ddadfuddsoddi arian y capel o danwydd ffosil – sy’n gofyn am weithredu gan y gymuned gyfan.


  • Yn drydydd, gofynnir i eglwysi ymrwymo i Thirdly, churches are asked to sign up to Ddatganiad ‘Nawr yw’r Amser’ Clymblaid yr Hinsawdd a gyfeirir at wleidyddion ac arweinyddion byd – gan fod newid hinsawdd yn gyfrifoldeb i bobl mewn grym. Nid yw datgarboneiddio’r grid cenedlaethol neu greu coedwig genedlaethol newydd i Gymru yn gynlluniau y gall unigolion na’r eglwys fwyaf ymroddedig eu cyflawni – mae angen llywodraethau i weithredu ar frys. Fe fydd COP26 yn llwyfan pwysig ar gyfer ymrwymiadau felly, ond fe’u ceir dim ond os yw gwleidyddion yn credu ein bod ni, unigolion a chymunedau, yn ddigon angerddol i fynnu newid a fydd, yn ei dro, yn newid ein bywydau ni yn sylweddol.


Felly, cyfrifoldeb pwy yw newid hinsawdd? Fy nghyfrifoldeb innau – a thithau. Cyfrifoldeb pob cymuned eglwysig a phob cymuned arall hefyd. A chyfrifoldeb y sawl sydd mewn grym. Boed i’n blwyddyn o Suliau’r Hinsawdd ein helpu ni a’n harweinyddion i ysgwyddo’n cyfrifoldebau er lles Cread Duw.


Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) ac yn aelod o Bwyllgor Llywio Sul yr Hinsawdd.

bottom of page