Buddsoddiad eglwysig ar gyfer adferiad cyfiawn a gwyrdd
Mae Bokani Tshidzu yn Swyddog Ymgyrch Bright Now yn Operation Noah.
‘Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.’ (Mathew 6:21, Beibl.net)
Mae natur frys yr argyfwng hinsawdd wedi cynyddu ac mae'n gofyn am ymateb cymesur. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol a chyfiawn yw dadfuddsoddi (tynnu’n harian) oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil. O ystyried bod cwmnïau olew a nwy yn parhau i fwydo'r argyfwng hinsawdd, mae'n anfoesegol parhau i elwa o'u harferion busnes niweidiol.
Mae dadfuddosddi o danwydd ffosil yn rheidrwydd moesol. Mae canlyniadau'r argyfwng hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar y tlotaf a'r mwyaf bregus. Ydyn ni'n clywed gwaedd y ddaear a gwaedd y tlodion? Rhaid i fuddsoddiadau eglwysig gael eu halinio â'n gwerthoedd; rhaid i'n ffydd ein harwain i weithredu.
Y llynedd (2020), argymhellodd y Fatican am y tro cyntaf y dylid dadfuddsoddi. Mae llawer o Eglwysi wedi dadfuddsoddi’n llawn o danwydd ffosil, gan gynnwys y Crynwyr ym Mhrydain, Eglwys Iwerddon a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Yn 2020, ymrwymodd 50 o sefydliadau ffydd y DU i ddadfuddsoddi o danwydd ffosil. Mae'r rhain yn gamau proffwydol sy'n goleuo’r ffordd i eraill ei dilyn.
Mae pob cwmni olew mawr yn herio Cytundeb Paris yn hytrach na chydymffurfio ag ef. Tra’n honni eu bod yn cefnogi Cytundeb Paris, mae cwmnïau olew a nwy yn parhau i lobïo yn erbyn gweithredu ar yr hinsawdd ac yn cynllunio cynnydd mewn chwilio am ac echdynnu tanwydd ffosil. Mae hyn er gwaethaf y ffaith, os ydym am atal effeithiau trychinebus pellach yn yr hinsawdd, bod rhaid i'r mwyafrif helaeth o'r cronfeydd tanwydd ffosil hysbys aros yn y ddaear. Mae angen i eglwysi hefyd gefnogi adferiad cyfiawn a gwyrdd o effeithiau'r pandemig trwy fuddsoddi yn nhechnoleg lân y dyfodol.
Weithiau gall ymddangos fel pe bai'r camau a gymerwn ar lefel unigol megis un diferyn bach yn y môr. Mae dadfudsoddi yn gam strategol ac ymarferol sy'n cael effaith ar y lefel strwythurol. Fel y mae cwmnïau olew mawr eu hunain wedi cydnabod, mae dadfudsoddi yn ei gwneud hi'n ddrutach codi arian i barhau i chwilio am ac echdynnu cronfeydd tanwydd ffosil newydd. Trwy gael gwared ar ganiatâd cymdeithasol i’r cwmnïau tanwydd ffosil, mae dadfudsoddi yn cynyddu'r pwysau ar lywodraethau i gyflwyno deddfwriaeth sy'n torri'r galw am danwydd ffosil ymhellach.
Hefyd, dadfuddsoddi yw'r dewis darbodus yn ariannol i amddiffyn buddsoddiadau o ystyried y risg o asedau’n troi’n ddiwerth, yn ogystal â'r toriadau i ddifidendau a welwyd y llynedd am y tro cyntaf mewn tri degawd. Mae costau ynni adnewyddadwy yn disgyn, a mae technolegau glân eraill yn datblygu, gan fygwth y galw am danwydd ffosil a darparu cyfleoedd i Eglwysi fuddsoddi mewn dyfodol di-garbon a rhoi eu harian lle mae eu calon.
Gweler ein hadnodd diweddaraf yma i archwilio thema Hinsawdd a Chyllid mewn gweddi, mewn ymrwymiad i weithredu ac ymuno ag eraill i alw am ddefnydd moesegol o adnoddau ariannol.
Adnoddau a gweminarau defnyddiol:
Canllaw cam wrth gam ar gyfer eglwysi lleol sydd am ddadfuddsoddi
Adroddiad Bright Now: ‘Buddsoddiadau eglwysig mewn cwmnïau olew mawr: Cydymffurfio â Paris neu herio Paris?’ Lawrlwythwch yr adroddiad a gwyliwch y gweminar
Gwyliwch weminar y Methodistiaid: Yr Argyfwng Hinsawdd, COP26 a Dadfuddsoddi o Danwydd Ffosil gyda Bill McKibben (Sylfaenydd 350.org)
Gwyliwch weminar Eglwysi’r Alban: ‘COP26, Dadfuddsoddi a Buddsoddi mewn Adferiad Cyfiawn a Gwyrdd’ gyda Lorna Gold (Cadeirydd y Mudiad Hinsawdd Catholig Byd-eang)
Gwyliwch weminar y Cymundeb Anglicanaidd: ‘COP26, Dadfuddsoddi a Buddsoddi mewn Cyfiawnder Hinsawdd’
Cyfeiriadau:
Y Fatican: Journeying Towards Care for Our Common Home: Five Years After Laudato Si’: Darllenwch yma.
Guardian: ‘Top oil firms spending millions lobbying to block climate change policies, says report’ (March 2019): https://www.theguardian.com/business/2019/mar/22/top-oil-firms-spending-millions-lobbying-to-block-climate-change-policies-says-report
Financial Times: ‘Big Oil’s $5tn investment is incompatible with Paris deal’ (April 2019): https://www.ft.com/content/08453afc-61e8-11e9-b285-3acd5d43599e
BBC: ‘Bank of England chief Mark Carney issues climate change warning’ (December 2019): https://www.bbc.co.uk/news/business-50868717
Church Times: ‘Church fossil-fuel holdings are sold to the sound of no trumpets’ (July 2020): https://www.churchtimes.co.uk/articles/2020/17-july/news/uk/church-fossil-fuel-holdings-are-sold-to-the-sound-of-no-trumpets
Adroddiad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig am y Bwlch Cynhyrchu 2020: https://www.unenvironment.org/resources/report/production-gap-2020
Carbon Brief: ‘Wind and solar are 30-50% cheaper than thought, admits UK government’ (Awst 2020): https://www.carbonbrief.org/wind-and-solar-are-30-50-cheaper-than-thought-admits-uk-government
Comments